Hyperloop

Mae Hyperloop (Cymreigiad: hyperddolen) yn system drafnidiaeth gyflym arfaethedig ar gyfer y cyhoedd a chludo nwyddau. Cyhoeddwyd y syniad gyntaf gan y dyfeisydd Elon Musk mewn papur gwyn a ryddhawyd yn 2013, lle disgrifiwyd yr Hyperloop fel prosiect cludo a fyddai'n cynnwys capsiwlau a gefnogir gan aer-berynnau (air-bearings) mewn amgylchedd pwysedd-isel y tu mewn i diwb. Mae gan systemau hyperloop dair elfen hanfodol: y tiwb ei hun, codennau sy'n gwibio o fewn y tiwb a therfynellau, sef math o orsafoedd. Mae'r tiwb yn system pwysedd-isel (gwactod neu faciwm) enfawr, wedi'i selio ac ar ffurf twnnel hir. Mae'r pod neu goden yn gerbyd dan bwysau atmosfferig yn profi gwrthiant neu ffrithiant aer isel y tu mewn i'r tiwb ac yn teithio dan yriant magnetig. Mae'r derfynell yn fan cychwyn ac yn fan gorffen y daith. Mae'r Hyperloop, yn y ffurf gychwynnol a gynigiwyd gan Musk, yn wahanol i vactrains gan eu bod yn dibynnu ar bwysedd aer gweddilliol y tu mewn i'r tiwb a fyddai'n codi'r goden gyda chymorth aeroffoils a gyriad gan wyntyll; ond mae llawer o'r amrywiadau dilynol yn debyg iawn i'r vagtrains traddodiadol. Cafodd Hyperloop ei awgrymu gan Elon Musk yn 2012, a ddisgrifiwyd ganddo fel "y pumed dull o deithio". Hyrwyddodd Musk y cysyniad ymhellach trwy gyhoeddi papur gwyn yn Awst 2013, papur a greodd am lwybr Hyperloop yn llifo o Los Angeles i Fae San Francisco, gan fwy neu lai dilyn coridor yr Interstate 5. Roedd y cysyniad cychwynnol yn cynnwys tiwbiau gyda llai o bwysedd, lle mae capsiwlau neu gerbydau dan bwysau'n symud ar berynnau aer (air bearings) sy'n cael eu gyrru gan foduron llinol a chywasgwyr echelinol. Heriodd rhai dadansoddwyr trafnidiaeth yr amcangyfrifon cost a gynhwyswyd yn y papur gwyn, gyda rhai yn rhagweld y byddai Hyperloop gorwario dros biliwn o ddoleri i'w gwireddu. Yn 2023, rhyddhaodd y Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Safoni Electrodechnegol y safon dechnegol gyntaf ar gyfer systemau hyperddolen.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search